ABOUT THE TEAM RESIDENCIES TECHNOLOGIES RESEARCH CONTACT

 
 

First published on www.designwalesforum.org
date:25th November 2013
author: Diana Oliveira
 
 

We Welcome the Makers Using Technology Residents | Croesawn artistiaid preswyl Gwneuthurwyr yn Defnyddio Technoleg

Back in October Design Wales Forum made a call out for four Makers Using Technology residencies at the National Center for Product Design and Research (PDR) funded by the Arts Council of Wales. These residencies present an opportunity for makers to learn a haptic modelling system and use 3D printing technologies to create a new body of work. Aside from the technical training, the residents will have additional support to launch and publicise their work. Design Wales Forum received a large number of outstanding applications and choosing only four finalists was not an easy job for the panel.

The selection process went through two panels. The first panel consisted of:

  • Louise Wright Portfolio Manager at The Arts Council Wales
  • Simon Burgess Gallery Manager at The Makers Guild Wales
  • Karen Dell'Ami Jewellery Designer
  • Victoria Jones (ISD) Design Advisor at Design Wales Forum

The panel whittled the entries down to six makers. Design Wales Forum sends a big thank you to the first panel, their efforts are much appreciated. The final six makers were interviewed last week by the Makers Using Technology team: Peter Dorrington, Tom Edmunds and Victoria Jones with the Operations Director of Design Wales and PDR Gavin Cawood.

So, without further ado meet the Makers Using Technology residents:



Yn ôl ym mis Hydref galwodd Fforwm Dylunio Cymru am bedwar cyfnod preswyl Gwneuthurwr yn Defnyddio Technoleg yn y Ganolfan Genedlaethol Dylunio Cynnyrch ac Ymchwil (PDR) a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd y cyfnodau preswyl hyn yn rhoi’r cyfle i wneuthurwyr ddysgu am system modelu haptig a defnyddio technolegau argraffu 3D i greu corff newydd o waith. Ar wahân i hyfforddiant technegol, caiff yr artistiaid preswyl gefnogaeth ychwanegol i lansio a rhoi cyhoeddusrwydd i’w gwaith. Derbyniodd Fforwm Dylunio Cymru nifer fawr o geisiadau rhagorol ac nid oedd dewis pedwar yn unig ar gyfer y rownd derfynol yn waith hawdd i’r panel.

Aeth y broses ddewis drwy ddau banel. Roedd y panel cyntaf yn cynnwys:

  • Louise Wright Rheolwr Portffolio, Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Simon Burgess Rheolwr Oriel, Urdd Gwneuthurwyr Cymru
  • Karen Dell'Ami Cynllunydd Gemwaith
  • Victoria Jones (ISD) Cynghorydd Dylunio, Fforwm Dylunio Cymru

Dewisodd y panel chwe gwneuthurwr allan o’r cynigion. Hoffai Fforwm Dylunio Cymru ddiolch o waelod calon i’r panel cyntaf, gwerthfawrogir eu hymdrechion yn fawr. Cafodd y chwe gwneuthurwr terfynol eu cyfweld yr wythnos ddiwethaf gan y tîm Gwneuthurwyr yn Defnyddio Technoleg: Peter Dorrington, Tom Edmunds a Victoria Jones gyda Chyfarwyddwr Dylunio Cymru a PDR, Gavin Cawood.

Felly, heb oedi pellach, dewch i gwrdd â’r artistiaid preswyl Gwneuthurwyr yn Defnyddio Technoleg:



Jessica Lloyd Jones

Image courtesy of Jessica Lloyd Jones | Delwedd drwy garedigrwydd Jessica Lloyd Jones

WHO? Jessica is an artist based in North Wales. She has exhibited extensively throughout the UK, as well as in New York, Belgium, Switzerland and Italy.

WHAT? Her practice ranges from glass sculpture to digital art and installation art, ideas about science and technology. Her work aims to show "new perspectives on the world in which we live" by manipulating materials and light. Visit her website:www.jessicalloyd-jones.com

WHEN? Residency 1: From 9th December 2013 to 14th February 2014.

SHE SAID "The residency presents an opportunity to experiment with new technologies and approaches to making that will influence the development of my practice. I am looking forward to gaining an in depth insight into 3D printing and embarking on a new journey of discovery."



PWY? Mae Jessica yn artist wedi ei lleoli yng Ngogledd Cymru. Mae wedi arddangos yn helaeth ledled y DU, a hefyd yn Efrog Newydd, Belg, Y Swistir a’r Eidal.

BETH? Mae ei harfer yn amrywio o gerflunio gwydr i gelf ddigidol a chelf osodiadol, syniadau am wyddoniaeth a thechnoleg. Nod ei gwaith yw dangos "safbwyntiau newydd ar y byd yr ydym yn byw ynddo” drwy drin deunyddiau a golau. Ewch i’w gwefan: www.jessicalloyd-jones.com

PRYD? Cyfnod preswyl 1: o 9 Rhagfyr 2013 hyd 14 Chwefror 2014.

DYWEDODD "Mae’r cyfnod preswyl yn rhoi’r cyfle i arbrofi gyda thechnolegau a dulliau newydd ar gyfer gwneud a fydd yn dylanwadu ar ddatblygiad fy arfer. Edrychaf ymlaen at gael mewnwelediad manwl i argraffu 3D a dechrau ar siwrnai newydd o ddarganfod."



Anne Gibbs

Anne Gibbs

Image courtesy of Anne Gibbs | Delwedd drwy garedigrwydd Anne Gibbs

WHO? Anne is a ceramic/ sculpture artist based in Cardiff. She has exhibited nationally and her work is in collections in Korea, Greece and the USA.

WHAT? She makes small scale bone china sculptures which are carefully placed next to found objects creating beautiful and delicate landscapes. Visit her website: www.annegibbs.co.uk

WHEN? Residency 2: from 17th February to 11th April 2014.

SHE SAID "I'm really looking forward to spending time learning a new skill using haptic technologies. It's going to be a challenge as it's totally different to how I usually work."



PWY? Mae Anne yn artist cerameg/ cerflunio sydd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd. Mae wedi arddangos yn genedlaethol ac mae ei gwaith mewn casgliadau yng Nghorea, Groeg ac UDA.

BETH? Mae’n gwneud cerfluniau tsieni esgyrn graddfa fach a osodir yn ofalus nesaf at wrthrychau y daethpwyd o hyd iddynt gan greu tirweddau hardd a chywrain. Ewch i’w gwefan: www.annegibbs.co.uk

PRYD? Cyfnod preswyl 2: o 17 Chwefror hyd 11 Ebrill 2014.

DYWEDODD "Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at dreulio amser yn dysgu sgil newydd gan ddefnyddio technolegau haptig. Fe fydd yn her gan ei fod yn hollol wahanol i’r ffordd rwy’n arfer gweithio."



Beate Gegenwart

Beate Gegenwart

Image courtesy of Beate Gegenwart | Delwedd drwy garedigrwydd Beate Gegenwart

WHO? Beate is an artist-maker based in Swansea. She is also Head of School of Applied Arts at Swansea Metropolitan University. She has exhibited extensibly throughout the UK and USA as well as Germany, France and Belgium

WHAT? She uses water jet and laser cutting to make 2D pieces on stainless or mild steel. Her practice focuses on ideas of place, location/dislocation and movement. Visit her website: beategegenwart.co.uk

WHEN? Residency 3: from 14th April to 6th June 2014.

SHE SAID "The residency is such a wonderful opportunity to explore new technologies and new concepts of 'space'. It will provide a great catalyst to consider 2D into 3D, and hopefully, stimulate the unexpected and 'un-thought of', which is a potential outcome of the residency I find really exciting."



PWY? Mae Beate yn artist-wneuthurwr sydd wedi ei lleoli Abertawe. Mae hefyd yn Bennaeth yr Ysgol Celfyddydau Cymhwysol ym Mhrifysgol Metropolitan Abertawe. Mae wedi arddangos yn eang ar draws y DU ac UDA yn ogystal â’r Almaen, Ffrainc a Belg.

BETH? Mae’n defnyddio dulliau torri â jet dŵr a laser i wneud darnau 2D ar ddur distaen neu feddal. Mae ei harfer yn canolbwyntio ar syniad o le, lleoliad / dadleoliad a symudiad. Ewch i’w gwefan: beategegenwart.co.uk

PRYD? Cyfnod Preswyl 3: o 14 Ebrill hyd 6 Mehefin 2014.

DYWEDODD "Mae’r cyfnod preswyl hwn yn gyfle gwych i ymchwilio technolegau newydd a chysyniadau newydd o ‘ofod’. Bydd yn gatalydd mawr i ystyried 2D i mewn i 3D, a gobeithio yn ysgogi’r annisgwyl a’r ‘hyn na feddyliwd amdano’, sy’n ganlyniad posibl y cyfnod preswyl yr wyf yn ei weld yn wir gyffrous."



Anna Lewis

Anna Lewis

Image courtesy of Anna Lewis | Delwedd drwy garedigrwydd Anna Lewis

WHO? Anna is a jewellery designer based in South Wales. She has exhibited extensively in the UK including the V&A Museum, and abroad in Tokyo, Milan and Amsterdam.

WHAT? Her practice is primarily jewellery design but she also creates installations, photography and video. She explores ideas of narrative, fantasy and memory. Visit her website: www.annalewisjewellery.co.uk

WHEN? Residency 4: from 9th June to 1st August 2014.

SHE SAID "I'm really excited to start the residency in the Summer. I can't wait to work on new designs and feel this is a good opportunity to explore new ideas."



PWY? Mae Anna yn gynllunydd gemwaith yn Ne Cymru. Mae wedi arddangos yn eang yn y DU gan gynnwys Amgueddfa V&A, a thramor yn Tokyo, Milan ac Amsterdam.

BETH? Cynllunio gemau yw ei harfer yn bennaf ond mae hefyd yn creu gosodiadau, ffotograffiaeth a fideo. Mae’n archwilio syniadau o naratif, ffantasi a chof. Ewch i’w gwefan: www.annalewisjewellery.co.uk

PRYD? Cyfnod preswyl 4: o 9 Mehefin hyd 1 Awst 2014.

DYWEDODD "Rwy’n llawn cyffro i ddechrau ar fy nghyfnod preswyl yn yr Haf. Ni allaf aros i gael gweithio ar gynlluniau newydd a theimlaf fod hwn yn gyfle da i archwilio syniadau newydd."



Design Wales Forum and PDR are very excited to welcome the four residents and look forward to seeing the great works that will emerge from Makers Using Technology pilot project.

Residency 1 will start on 9th December 2013 with Jessica Lloyd Jones. News on each residency will be posted on the Design Wales Forum, so watch this space!



Mae Fforwm Dylunio Cymru a PDR yn llawn cyffro i gael croesawu’r pedwar artist preswyl ac yn edrych ymlaen at weld y gwaith gwych a ddaw i’r amlwg o’r prosiect cynllun peilot Gwneuthurwyr yn Defnyddio Technoleg.

Bydd y cyfnod preswyl 1 yn dechrau ar 9 Rhagfyr 2013 gyda Jessica Lloyd Jones. Caiff newyddion pob cyfnod preswyl eu rhoi ar wefan Fforwm Dylunio Cymru, felly cadwch lygad am y rhain!

   
 

The residencies are being offered by Design Wales Forum, and have been funded by the Arts Council Wales through the lottery fund, and the National Centre for Product Design and Research.