ABOUT THE TEAM RESIDENCIES TECHNOLOGIES RESEARCH CONTACT

 
 

First published on www.designwalesforum.org
date: 31st March 2015
author: Victoria Jones
 
 

'Exploration of Materiality' Residencies Call Out

OPPORTUNITY FOR WALES BASED MAKERS

Artist Residencies x 2

CALL

Following our successful 'Makers Using Technolgies' residencies in 2013/2014, Design Wales Forum is offering two new residencies for contemporary makers to develop and create new work using haptic modelling software and 3D printing technologies.

The residencies are open to Wales based makers only. For our purposes ‘maker’ is a broad term encompassing craft, designer maker and fine art activity. We are looking for makers with an established practice and a demonstrable practice profile.

The selected resident makers will have a thirst for new ideas, extending their practice into new areas and for sharing their enthusiasm with others. Makers do not need prior knowledge of either of the technologies. We are particularly interested to hear from makers who are exploring materials and materiality in their practice.


GALWAD

Mae Fforwm Dylunio Cymru yn cynnig dau gyfnod preswyl ar gyfer gwneuthurwyr cyfoes i ddatblygu a chreu gwaith newydd gan ddefnyddio meddalwedd modelu haptig a thechnolegau argraffu 3D.

Mae’r cyfnodau preswyl ar gael dim ond ar gyfer gwneuthurwyr sydd wedi eu lleoli yng Nghymru. Ar gyfer ein dibenion ni, mae ‘gwneuthurwr’ yn derm cyffredinol sy’n cynnwys gweithgaredd crefft, dyluniwr wneuthurwyr a chelfyddyd gain. Rydym yn chwilio am wneuthurwyr sydd ag ymarfer sefydledig a phroffil ymarfer amlwg. Bydd gan y gwneuthurwyr preswyl a ddewisir awch am syniadau newydd, byddant am ymestyn eu hymarfer i feysydd newydd ac am rannu eu brwdfrydedd gydag eraill. Nid oes angen i wneuthurwyr gael gwybodaeth flaenorol o’r naill dechnoleg na’r llall. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan wneuthurwyr sy’n archwilio deunyddiau a’u cyfansoddiad yn eu hymarfer.


TRAINING

Training is a key part of the residencies. A technical training programme will enable the selected makers to develop a working knowledge of modelling software (Freeform) and four 3D printing technologies. It is intended that resident makers will learn enough of the technologies that they will be able to use that knowledge as an ongoing part of their practice.

Alongside the technical training, a tailored programme of ‘business’ mentoring will be offered to the residents. Sessions will be dependent on the requirements of the individual makers but can include design process management, writing methods or marketing strategies.


HYFFORDDIANT

Mae hyfforddiant yn rhan allweddol o’r cyfnodau preswyl. Y bwriad yw y bydd y gwneuthurwyr preswyl yn dysgu digon am y technolegau fel y byddant yn gallu eu defnyddio fel rhan barhaus o’u hymarfer. Bydd rhaglen hyfforddiant yn galluogi’r gwneuthurwyr a ddewisir i ddatblygu gwybodaeth weithiol o feddalwedd modelu (Freeform) a phedwar o dechnolegau argraffu 3D.

Ochr yn ochr â’r hyfforddiant technegol, cynigir rhaglen o fentora ‘busnes’ wedi ei theilwra i’r gwneuthurwyr preswyl. Bydd y sesiynau’n dibynnu ar ofynion y gwneuthurwyr unigol ond gallant gynnwys rheoli proses ddylunio, strategaethau marchnata neu sgiliau ysgrifennu.


Artwork by Anna Lewis created during her 'Makers Using Technology residency in 2014. (Image courtesy of Anna Lewis)


WHEN

The residencies will run 11th May 2015 – 27 August 2015


PRYD

Bydd y cyfnodau preswyl yn digwydd 11 Mai 2015 – 27 Awst 2015


WHAT

The residents will be commissioned to create a new piece of work. Ideally the makers will produce a final piece of work, however we are more interested in the process of discovery that the makers embark on. We are keen to select makers for whom the residency will mark a point of departure and see it as a catalyst for a new way of thinking about their work.


BETH

Comisiynir y gwneuthurwyr preswyl i greu darn o waith newydd. Yn ddelfrydol bydd y gwneuthurwyr yn cynhyrchu darn terfynol o waith, fodd bynnag mae gennym fwy o ddiddordeb yn y broses ddarganfod y mae’r gwneuthurwyr yn ei phrofi. Rydym yn awyddus i ddewis gwneuthurwyr y bydd y cyfnod preswyl yn fan cychwyn iddynt a rhai a fydd yn ei weld fel catalydd ar gyfer ffordd newydd o feddwl ynglŷn â’u gwaith.


WHAT’S ON OFFER?

Each resident project will receive:

  • £3200 commissioning fee
  • £2500 of material cost to cover 3D printing costs
  • Technical advice and support
  • Business advice and support
  • Work space
  • Become part of a small community of peer makers
  • Project review sessions with critical feedback


BETH SY’N CAEL EI GYNNIG?

Bydd pob gwneuthurwr preswyl yn derbyn:

  • £3200 fel ffi comisiynu
  • £2500 ar gyfer costau deunyddiau i gynnwys costau argraffu 3D
  • Cyngor a chefnogaeth dechnegol
  • Cyngor a chefnogaeth fusnes
  • Gofod gweithio (i’w rannu gyda gwneuthurwr preswyl arall)
  • Dod yn rhan o gymuned fechan o gyd-wneuthurwyr
  • Sesiynau adolygu prosiect gydag adborth beirniadol

Artwork by Anne Gibbs created during her 'Makers Using Technology residency in 2014.


WHAT DO WE EXPECT FROM YOU?

  • Attendance of 1 day per week at our building in Cardiff
  • An open and rigorous approach to the project
  • Sharing of the development process of the work with Design Wales Forum staff through a reflective diary
  • Presentation of a final piece of work and/or presentation of a thorough research and development process
  • Engagement with technical training provided
  • Engagement with business support training provided
  • To keep the final work or an edition of it… but we don’t want to keep your IP

BETH YDYM YN EI DDISGWYL GENNYCH CHI?

  • Eich bod yn mynychu ein hadeilad yng Nghaerdydd 1 diwrnod yr wythnos rhwng 11 Mai a 27 Awst 2015
  • Bod gennych agwedd agored a chadarn tuag at y prosiect
  • Eich bod yn rhannu proses datblygu’r gwaith gyda staff Fforwm Dylunio Cymru drwy ddyddiadur myfyriol
  • Eich bod yn cyflwyno darn terfynol o waith a/neu’n cyflwyno proses ymchwil a datblygu trwyadl
  • Eich bod yn ymgysylltu â’r hyfforddiant technegol a ddarperir
  • Eich bod yn ymgysylltu â’r hyfforddiant cefnogi busnes a ddarperir
  • Eich bod yn cadw’r gwaith terfynol neu gynhyrchiad ohono … ond nid ydym am gadw eich eiddo deallusol


ADDITIONAL INFORMATION

  • All travel and accommodation costs will be covered by the maker.
  • Any material costs beyond the 3D printing will be met by the maker.
  • Selected artists will need to be registered with HMRC as self employed and have a UTR number.


GWYBODAETH YCHWANEGOL

  • Telir yr holl gostau teithio a llety gan y gwneuthurwr.
  • Caiff unrhyw gostau y tu hwnt i’r argraffu 3D eu talu gan y gwneuthurwr.
  • Ni chaiff gwneuthurwyr preswyl blaenorol wneud cais.
  • Rhaid i’r artistiaid a ddewisir fod wedi’u cofrestru’n hunangyflogedig gyda CThEM a bod ganddynt rif cyfeirnod unigryw trethdalwr.


TIMETABLE

Open for applications: 31th March 2015

Deadline for applications: Midnight 19th April 2015

If your application is successful, you will hear by the 22nd of April 2015 (no feedback can be given for unsuccessful applicants)

Selection interviews (in Cardiff ) will be on the 28th April 2015


AMSERLEN

Agor ar gyfer ceisiadau: 31 Mawrth 2015

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Canol nos 19 Ebrill 2015

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn clywed erbyn 22 Ebrill 2015 (ni ellir rhoi adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus)

Cynhelir cyfweliadau dewis (yng Nghaerdydd) ar 28 Ebrill 2015


Beate Gegenwart

Artwork by Beate Gegenwart created during her 'Makers Using Technology' residency in 2014.


ELIGIBILITY

We will consider applications from:

  • Established makers who live and work in Wales, UK
  • Individual makers only, no group applications will be accepted.
  • Undergraduates and students in full time education are not eligible to apply.
  • Previous Makers Using Technology Residents may not apply.
  • No other applications will be considered.

If you have questions regarding eligibility, please contact Victoria Jones vjones@designwales.org


CYMHWYSTER

Byddwn yn ystyried ceisiadau gan:

  • Wneuthurwyr sefydledig sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.
  • Gwneuthurwyr unigol yn unig, ni dderbynnir ceisiadau gan grwpiau.
  • Nid yw myfyrwyr gradd a myfyrwyr mewn addysg llawn amser yn gymwys i wneud cais.
  • Ni ystyrir unrhyw geisiadau eraill.
  • Ni chaiff artistiaid preswyl ‘Gwneuthurwyr yn Defnyddio Technoleg’ blaenorol wneud cais

Os oes gennych gwestiynau ynglŷn â chymhwyster, cysylltwch â Victoria Jones vjones@designwales.org


ASSESSMENT CRITERIA

Applications will be assessed against the following criteria:

  • Is based in Wales
  • Is an established maker with a demonstrable practice profile (exhibitions, commissions, residencies, web presence)
  • Demonstrates a quality and originality of practice
  • Demonstrates an enthusiasm for embracing new ideas/ tools/ ways of working
  • Is clear about the anticipated impact of the work made in the residency beyond it’s timescale.

MEINI PRAWF ASESU

Asesir ceisiadau yn ôl y meini prawf canlynol:

  • Wedi eu lleoli yng Nghymru
  • Yn wneuthurwyr sefydledig gyda phroffil ymarfer amlwg (arddangosfeydd, comisiynau, cyfnodau preswyl, presenoldeb ar y we)
  • Arddangos ansawdd a gwreiddioldeb o ran ymarfer
  • Arddangos brwdfrydedd i groesawu syniadau / offer / ffyrdd o weithio newydd
  • Yn glir ynglŷn â’r effaith a ragwelir ar gyfer y gwaith a wneir yn y cyfnod preswyl y tu hwnt i’w amserlen.

Jessica Lloyd-Jones with Pete Dorrington learning to use the haptic Omni Arm during her 'Makers Using Technology' residency in 2013/2014.


HOW TO APPLY

If you are interested in applying for a residency, please complete a short online application form by visiting https://www.dropbox.com/sh/tc0gfnitx8tv716/AAC8u_TykID9tXGxl_1A85uEa?oref=e&n=121057925

Completed applications should be emailed with the subject line ‘Exploration of Materiality’, to project manager Victoria Jones vjones@designwales.org


SUT I WNEUD CAIS

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am gyfnod preswyl, a fyddech cystal â llenwi ffurflen gais fer ar-lein drwy fynd i https://www.dropbox.com/sh/tc0gfnitx8tv716/AAC8u_TykID9tXGxl_1A85uEa?oref=e&n=121057925

Dylid anfon ffurflenni cais wedi’u llenwi drwy e-bost gydag ‘Archwilio Cyfansoddiad Deunyddiau’ yn llinell pwnc y neges, at reolwr y prosiect Victoria Jones vjones@designwales.org


DEADLINE (extended) MIDNIGHT 19th APRIL 2015

(strictly no applications will be considered after this deadline)


DYDDIAD CAU CANOL NOS 19 EBRILL 2015

(ni ystyrir unrhyw geisiadau ar ôl y dyddiad cau hwn)


CONTACT

If you have any questions or queries please contact:
Victoria Jones vjones@designwales.org 02920 417018
or Peter Dorrington on 02920 417233


CYSYLLTU

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau cysylltwch â: Victoria Jones vjones@designwales.org 02920 417018
o Peter Dorrington on 02920 417233

 
 
 

The residencies are being offered by Design Wales Forum, and have been funded by the Arts Council Wales through the lottery fund, and the National Centre for Product Design and Research.

Caiff y cyfnodau preswyl eu cynnig gan Fforwm Dylunio Cymru ac fe’u hariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy’r gronfa Loteri a’r Ganolfan Genedlaethol Dylunio Cynnyrch ac Ymchwil.

makers using technology funding logos